Cynnydd gwaith gwirfoddoli Cynefin

Mae’r gwaith trawsgrifio’n symud yn gyflym ar wefan cynefin.cymru gyda gwirfoddolwyr yn cyfrannu dros 44 tudalen bob dydd. Mae eisoes 7631 o dudalennau wedi eu cwblhau, dim ond 19,503 tudalen ar ôl!

Mae ein gwirfoddolwyr wedi dweud wrthym eu bod angen gallu adnabod y plwyfi sydd heb eu gorffen mewn ffordd syml,  felly rydym wedi gwneud hyn yn fwy amlwg ar y wefan. Mae siartiau bar nawr i’w gweld ar gyfer pob plwyf ar dudalen Mapiau Degwm Cynefin. Wrth i chi osod eich llygoden ar un o’r siartiau yma, mi fydd blwch gwybodaeth yn ymddangos yn dangos faint o dudalennau sydd ar ôl i’w trawsgrifio a faint o fapiau sydd ar ôl i’w geogyfeirio. Mae seren yn cael ei roi ar blwyfi sydd wedi eu gorffen, ac mae 189 o’r rheiny’n barod.

Ydy’ch plwyf chi wedi ei orffen? Cymrwch gipolwg yma.
ProgressDyffrynTeifi

Ydych chi eisiau helpu gyda’r gwaith trawsgrifio ar-lein? Lawrlwythwch ein canllawiau gwirfoddoli i ddechrau arni. Cofiwch hefyd am ein gweithdai gwirfoddoli sy’n cael eu cynnal o gwmpas Cymru.

Category: Uncategorized @cy

Datgloi Treialon y Siartwyr

Postiwyd ar gan 0 comment

176 mlynedd yn ôl, ym mis Tachwedd 1839, fe alwodd yr awdurdodau pobl i mewn i Westy’r Westgate i gofnodi eu tystebau. Nid oedd y mwyafrif yn cyfaddef eu bod cefnogi Siartiaeth, ac fe gyhuddwyd yr arweinwyr o teyrnfradwriaeth. Er gwaethaf hyn, mae’r dogfennau hyn yn rhoi i ni gwir ymdeimlad o ddatblygiad y digwyddiadau yn y dyddiau a’r wythnosau yn arwain at y gwrthryfel.

Crëwyd y ffilm yma fel rhan o un o brosiectau lleol Cynefin – O Deithiau i Dreialon. Mae’n defnyddio actorion lleol ac aelodau o’r gymuned i ddarllen rhai o’r geiriau a roddir fel tystiolaeth gan fwy na 250 o bobl yn y dyddiau ar ôl digwyddiadau angheuol o ganlyniad i wrthryfela yng Ngwesty’r Westgate yng Nghasnewydd ar 4 Tachwedd 1839.

Mae’r ffilm yn canolbwyntio ar y bobl hynny a fu’n rhan o hanes terfysg y Siartwyr yng nghymoedd Gwent a Chasnewydd ar ddechrau teyrnasiad y Frenhines Fictoria, ac yn dathlu lleisiau y pobl gyffredin.

(Ffilm Saesneg)

Category: Uncategorized @cy

Anrhegion wedi eu hysbrydoli gan fapiau degwm, mewn pryd ar gyfer y Nadolig!

Ydych chi wedi dechrau eich siopa Nadolig eto? Chwilio am anrheg unigryw?

Mae prosiect Cynefin wedi bod yn gweithio ar y cyd gyda siop Llyfrgell Genedlaethol Cymru i greu nwyddau newydd ac unigryw. Maent erbyn hyn ar gael i’w prynu ar-lein, mewn pryd ar gyfer y tymor y Nadolig!

Matiau diod Hen Gymru Fynyddig  Matiau diod Ar lan y môr

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn paratoi at y Nadolig trwy lansio gwefan newydd i’r siop. Bydd y siop ar-lein yn cynnwys nwyddau wedi eu creu gan ddefnyddio mapiau degwm, yn ogystal â nwyddau cartref, gemwaith, printiadau, llyfrau a chardiau – llawer iawn ohonynt yn unigryw ac wedi eu hysbrydoli gan gasgliadau’r Llyfrgell.  Yn ogystal ag eitemau wedi eu seilio ar gasgliadau’r Llyfrgell, mae llawer o eitemau ar gael gan artistiaid lleol, fel print Big Surf at Llangrannog gan Ian Phillips, a chardiau cyfarch gan yr artist Lizzie Spikes sy’n portreadu’r Llyfrgell ar adeg y Nadolig.

 

 I ddarganfod anrhegion unigryw i’ch teulu a ffrindiau eleni, dewch ynghyd i ddigwyddiad Dathlu’r Nadolig yn y Llyfrgell ar ddydd Iau 3ydd o Ragfyr, neu ewch i wefan y siop.

 

Ar hast? Gallwch brynu’r matiau diod Cynefin yma:

 


Category: Uncategorized @cy

Ffilm cymunedol yn dod â lleisiau Siartwyr yn fyw

Ar 2 Rhagfyr yn Archifdy Gwent, bydd cyfle i’r cyhoedd weld ffilm newydd sy’n dathlu lleisiau pobl gyffredin. Mae’r ffilm yn canolbwyntio ar y bobl hynny a fu’n rhan o hanes terfysg y Siartwyr yng nghymoedd Gwent a Chasnewydd ar ddechrau teyrnasiad y Frenhines Fictoria.
IMG_20150616_122533516_HDR
Crëwyd y ffilm yma fel rhan o un o brosiectau lleol Cynefin – O Deithiau i Dreialon. Mae’n defnyddio actorion lleol ac aelodau o’r gymuned i ddarllen rhai o’r geiriau a roddir fel tystiolaeth gan fwy na 250 o bobl yn y dyddiau ar ôl digwyddiadau angheuol o ganlyniad i wrthryfela yng Ngwesty’r Westgate yng Nghasnewydd ar 4 Tachwedd 1839. Nod y prosiect yw trawsgrifio dros 3,000 o dudalennau o’r dystiolaeth yma sy’n bodoli yn Llyfrgell Gyfeirio Casnewydd ac Archifau Gwent, a’i gyflwyno ar-lein.

Meddai Swyddog y Prosiect Sarah Daly: “Er i Siartiaeth gasglu nerth ar draws Prydain, yma yn Ne Cymru daeth y digwyddiadau i’w pen llanw. Roedd y bobl a orymdeithiodd yng Nghasnewydd eisiau’r hawl i bleidleisio. Nid oedd gan y rhan fwyaf o bobl, yn enwedig mewn ardaloedd diwydiannol fel cymoedd de Cymru, unrhyw ffordd i leisio’u barn neu i frwydro am welliannau i’w cyflwr byw ac amodau gwaith ofnadwy.”

Yn union 176 mlynedd yn ôl, ym mis Tachwedd 1839, fe alwodd yr awdurdodau pobl i mewn i Westy’r Westgate i gofnodi eu tystebau. Roedd rhai o’r tystion dim ond yn gallu neu dim ond yn fodlon siarad Cymraeg. Er hyn, cofnodwyd yr holl dystiolaeth yn y Saesneg. Roedd eraill yn anllythrennog, ac o ganlyniad yn arwyddo eu tystiolaeth gyda chroes. Nid oedd y mwyafrif yn cyfaddef eu bod cefnogi Siartiaeth, ac fe gyhuddwyd yr arweinwyr o teyrnfradwriaeth. Er gwaethaf hyn, mae’r dogfennau hyn yn rhoi i ni gwir ymdeimlad o ddatblygiad y digwyddiadau yn y dyddiau a’r wythnosau yn arwain at y gwrthryfel.
ChiefZephaniah
Dywed gwneuthurwr y ffilm Kevin Philips o Green Valley Films: “Roedd yn wych i gynnwys pobl leol wrth greu’r ffilm hon. Dylem fod yn falch iawn bod ein cymunedau yma yng Nghymru wedi chwarae rhan mor bwysig yn ffurfio democratiaeth ar draws Prydain. Bu 22 o ddynion farw tu allan i Westy’r Westgate er mwyn rhoi’r hawl i ni bleidleisio. Mae hynny’n rhywbeth na ddylem anghofio.”

 
Cafodd y ffilm 15 munud ei greu gan Fenter Gymunedol Made in Tredegar a Green Valley Films, y ddau wedi eu lleoli yn Nhredegar, Blaenau Gwent. Bydd y fideo yn cael ei ryddhau ar sianel YouTube Archifau Cymru, gallwch ei ddarganfod drwy chwilio am Datgloi Treialon y Siartwyr.

Mae croeso i unrhyw un a hoffai wybod mwy am y prosiect neu gofrestru diddordeb fel gwirfoddolwr i helpu trawsgrifio’r tystebau gysylltu â Sarah Daly yn Archifdy Gwent ar sarah.daly@gwentarchives.gov.uk neu 01495 353363.

Category: Uncategorized @cy

Dilyn Rheilffyrdd Cynnar Cymru

Un o’r fyrdd gorau i astudio datblygiad rheilffyrdd yng Nghymru ydy edrych ar y mapiau degwm a luniwyd ar yr un pryd ag yr oedd llawer o’r rhai cynnar yn cael eu hadeiladu. Yma gallwch weld darlun o ba reilffyrdd adeiladwyd a phryd, ond mae angen i chi fod yn ymwybodol o pryd y crewyd y mapiau.

Mae map Caerdydd St Mary yn dangos rheilffordd Taff Vale a gafodd ei adeiladu yn yr 1830au, ond nid y GWR a ddaeth yn ddiweddarach. Mae Caerdydd yn llawer llai, nid yw’r orsaf ganolog yno, ac mae’r afon Taf yn dilyn llwybr gwahanol
Cardiff St Mary

Mae’r rhielffordd yn pasio trwy Pontypridd ar fap Llanwonno, ble gwelir cangen arall hefyd.
Pontypridd

Gwelir yr orsaf ar ben uchaf y llinell ar fap Merthyr, ac hefyd rheilffordd newydd i Gastell Nedd.
Merthyr

Yn y cyfamser mae llinell Sirhowy yn dechrau yng Ngwaith Dur Sirhowy, i’r gogledd o Dredegar ar fap Bedwellty…
Sirhowy-Tredegar
…ac yn gorffen yng Nghasnewydd, ble mae yna linell tram hefyd yn mynd i mewn i’r dref fel ag yr oedd hi ar y pryd.
Newport
Yn y gogledd mae mapiau a luniwyd yn yr 1840au hwyr yn dangos y rheilffordd i Gaergybi, yr engrhaifft yma yw Dwygyflchi, ble mae’r tir a roddwyd i’r tren yn cael ei ddangos, ond nid yw pentref Penmaenmawr yn bod eto.Dwygyfylchi
Mae’r rheilffordd i’w weld yn glir ar fapiau eraill yn cynnwys Abergwyngregyn ar fap Aber, sir Gaernarfon.
Abergwyngregyn
Lluniwyd rhai mapiau yn gynharach yn yr 1840au ac nid yw’r rhain yn dangos y rheilffyrdd, gallwch weld hyn drosoch eich hun e.e. Bangor

Category: Uncategorized @cy

Casglu enwau caeau coll Capel Celyn

Postiwyd ar gan 0 comment

Mae’r mapiau degwm a luniwyd yn yr 1840au yn dangos tiroedd sydd bellach o dan gronfeydd dŵr, gan gynnwys wrth gwrs yr ardal o dan Llyn Celyn, Meirionnydd.

Yn 1965 boddwyd Cwm Tryweryn a phentref Capel Celyn ger y Bala er mwyn cyflenwi dŵr i ddinas Lerpwl. Boddwyd 800 erw o dir, a hefyd yr ysgol, y llythyrdy, y capel a’r fynwent er mwyn creu cronfa ddŵr Llyn Celyn. Boddwyd deuddeg fferm ac effeithiwyd ar diroedd pedair fferm arall.

Isod fe welwch gyfansoddiad o fapiau degwm plwyfi Llanycil a Llanfor o’r 1840au, sy’n dangos y tir a’r caeau a foddwyd gan gronfa ddŵr Llyn Celyn.

llyn-celyn-map

 

Wrth i ni gofio 50 mlynedd ers boddi Cwm Tryweryn, gofynnwn i chi ymuno a ni i drawsgrifio gwybodaeth am y tir coll o dan Llyn Celyn. Ar wefan cynefin.cymru, gallwch weld mapiau a dogfennau o’r 1840au sy’n dangos pwy oedd perchnogion a thirfeddianwyr y tir sydd bellach o dan y gronfa ddŵr, yn ogystal ag enwau’r caeau a defnydd y tir.

capel2  capel

Cysylltwch â ni am wybodaeth bellach ar sut i wirfoddoli ar-lein, i helpu trawsgrifio’r mapiau a’r dogfennau yma er mwyn diogelu hanes Capel Celyn.

 

O.N. Dyma linc i ffilm hynod ddiddorol sy’n cyfleu bywyd a thirwedd y pentref cyn boddi’r cwm.

http://player.bfi.org.uk/film/watch-tryweryn-the-story-of-a-valley-1965/

Category: Uncategorized @cy

Prosiect yn rhoi cipolwg ar fywyd yng Nghymru yn yr 1840au

Postiwyd ar gan 0 comment

Mae cymunedau yn ardal Hiraethog yn Sir Ddinbych wrthi’n brysur yn ymchwilio hanes eu pentrefi fel rhan o brosiect Cynefin. Mae prosiect Cynefin yn digido mapiau degwm Cymru, ac o’r mapiau yma ceir ddarlun o Gymru fel yr oedd yn yr 1840au; cyfnod pan roedd y rheilffyrdd yn lledaenu ar draws y wlad a phan nad oedd trefi fel Penmaenmawr yn bodoli. Gall y mapiau degwm sydd wedi eu digido hyd yma i’w gweld ar wefan cynefin.cymru, lle gall y cyhoedd gymryd rhan drwy drawsgrifio dogfennau’r degwm.

 
Meddai Samantha Jones, Swyddog Prosiect Cynefin; “Mae’r prosiect yn rhoi cyfle i gymunedau lleol i ddysgu mwy am eu hardal gan ddefnyddio eu harchifau lleol. Mae archifau’n adnodd gwych, llawn deunydd gwreiddiol, sy’n ein helpu i ddeall mwy am sut beth oedd byw mewn llefydd fel Llansannan yng nghanol yr 1800au.”

 
Mae pobl o bentrefi Bro Hiraethog yn edrych ar fywydau a chartrefi’r werin a’r haenau uwch. Trwy ddefnyddio gwefannau megis Find my past ac Ancestry sydd ar gael am ddim mewn archifau a llyfrgelloedd lleol, maent wedi darganfod gwybodaeth am bwy oedd yn byw mewn rhai tai drwy’r oes o 1841-1911.

Speculum Gregis
Fel rhan o’r prosiect maent hefyd wedi astudio dogfennau gwreiddiol a geir yn yr archifau lleol. Un ddogfen o’r fath yw Speculum Gregis a ysgrifennwyd gan RH Jackson a oedd yn giwrad yn Llansannan. Mae’r llyfr yn rhoi cipolwg o’r pentref ym 1850 ac mae’n cynnwys gwybodaeth bwysig fel holl ficeriaid y plwyf a nifer y bobl oedd yn mynychu’r eglwys. Mae’r llyfr hefyd yn cynnwys map lliwgar o ganol y pentref, ynghyd ag enwau’r bobl oedd yn byw yn y tai, eu hoedran a’u galwedigaethau.

 

IMG_3343Mae digwyddiadau wedi eu trefnu yn Llansannan ym mis Hydref a fydd yn rhoi cyfle i’r cyhoedd i gyfrannu i’r prosiect.

 
Bydd noson agored yn Ysgol Bro Aled ar 13 Hydref am 7yh, lle bydd map degwm gwreiddiol Llansannan yn cael ei arddangos. Mae’n gyfle i rannu gwybodaeth am yr adeiladau ac enwau lleoedd Llansannan, yn ogystal â rhannu atgofion am y pentref.

 
Bydd yna daith gerdded hamddenol drwy’r pentref i archwilio hen adeiladau Llansannan ar ddydd Sadwrn 31 Hydref am 11 y bore gan ddechrau yn y sgwâr wrth ymyl y maes parcio.

 

Category: Uncategorized @cy

Cymharu’r degwm gydag amaethyddiaeth fodern

Yn ddiweddar mae prosiect Cynefin, sy’n digido holl fapiau degwm Cymru, wedi bod yn cydweithio gydag Undeb Amaethwyr Cymru i gymharu system y degwm gyda gwefannau  amaethyddol modern.

Mae ffermwyr heddiw yn gallu cofnodi enwau caeau ar systemau fel Taliadau Gwledig Cymru Ar-lein neu IACS, tra yn yr 1840au roedd enwau caeau yn cael eu cofnodi ar restrau pennu’r degwm. Roedd y dogfennau yma’n cyfeirio at y mapiau degwm a gafodd eu creu yn dilyn deddf Cymudo’r Degwm yn 1836. Mae’r wybodaeth yma ar gael i bawb i’w weld heddiw ar wefan cynefin.cymru.

Fe grëwyd y mapiau degwm i bennu faint o ddegwm roedd yn rhaid i ddefnyddwyr tir ei dalu. Mae  gan bob map degwm restr pennu sy’n nodi pwy oedd yn byw ar y tir, pwy oedd yn berchen arno, a hefyd pa ddefnydd wnaed o’r tir. Wrth edrych ar y dogfennau a’r mapiau yma heddiw gallwch weld tystiolaeth o ffermio sylweddol oedd yn digwydd ar draws Cymru yn yr 1840au, gan gynnwys rhannau helaeth o’r ucheldiroedd. Mae tiroedd coediog yn cael eu dangos yn glir a gellir gweld er enghraifft ble mae coedwigoedd heddiw ar ardaloedd a arferid ei amaethu yn y gorffennol.

Dywedodd Rheolwr Prosiect Cynefin, Einion Gruffudd “Mae enwau’r caeau yn adrodd hanesion o’r gorffennol, gan gynnwys cyfeiriadau at hen ddulliau o amaethu, neu gnydau a arferwyd eu tyfu ar y tir. Gallwch gymharu defnydd tir presennol gyda’r gorffennol ar y wefan. Amcan prosiect Cynefin ydy casglu’r holl wybodaeth am enwau pobl a chaeau a defnydd tir yn yr 1840au a’i wneud yn hawdd i’w chwilio ar draws Cymru gyfan.”

Mewn partneriaeth gydag Undeb Amaethwyr Cymru, mae mapiau degwm Cymru wedi bod ar daith drwy’r wlad, drwy gael eu harddangos mewn sioeau amaethyddol lleol dros yr haf. Bydd taith y mapiau degwm yn gorffen yn Sioe Brynbuga/Usk ddydd Sadwrn y 12fed o Fedi, lle bydd cyfle i weld y map degwm lleol ar stondin Undeb Amaethwyr Cymru.

Tithe map of Usk

Category: Uncategorized @cy

Hanes Enwau Mathrafal a Meifod

Eleni mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn dychwelyd i Feifod ac i dir Mathrafal. Ond beth yw ystyr yr enwau lleoedd hynny?

Mathrafal

http://cynefin.archiveswales.org.uk/wp-content/uploads/2015/07/Meifod.jpg

Bod yn golygu ‘cartref, trigfan, annedd’ yw ail elfen yr enw Meifod, a digwydd yn gyffredin mewn enwau lleoedd. Yn draddodiadol, câi’r elfen gyntaf ei dehongli fel Mai, enw’r mis, gan arwain at esbonio’r enw fel ‘trigfan mis Mai’ (mewn cyferbyniad â hafod ‘trigfan yr haf’). Ond mewn gwirionedd, mei-, elfen yn golygu ‘hanner, canol’ sydd yma. Mae’r enw Meifod felly’n dynodi ‘trigfan yn y canol’ ac yn cyfeirio (fel y nodir yn Owen & Morgan: Dictionary of the Place-Names of Wales, t. 315) at ei leoliad tua hanner ffordd rhwng Llansanffraid-ym-Mechain a Mathrafal. Yr un elfen mei- a welir yn Mehefin ‘canol tymor yr haf’ ac yn dimai ‘hanner ceiniog’. Fe’i gwelir hefyd yn yr enwau lleoedd Meidrum (mei- + trum) a Meiros (mei- + rhos) yn sir Gaerfyrddin.

Ceir enghreifftiau pellach o’r enw Meifod ar draws y Gogledd, er enghraifft yn Abergele, Llanenddwyn, a Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch, a digwydd gyda’r fannod yn Y Feifod ger Llangollen.

Mathrafal

Cyfuniad yw Mathrafal o’r elfennau ma ‘maes, gwastadedd’ a tryfal ‘triongl’, yn ddisgrifiad o’r tir gwastad sy’n gorwedd yn y cymer neu’r fforch rhwng uniad afonydd Banw ac Efyrnwy. Yr un ma a welir hefyd yn yr enwau Machynlleth, Machynys, a Mechain, ynghyd â’r enwau personol Cynllaith, Cynys, a Cain. (Sylwer bod ma yn peri treiglad llaes i’r elfen sy’n dilyn.) Yn yr enw Mathrafal, ystumiwyd tryfal i trafal drwy gymathiad yr y â’r ddwy a o boptu iddi yn yr enw.

Paratowyd gan Angharad Fychan gyda chydweithrediad Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru

www.cymdeithasenwaulleoeddcymru.org

Category: Uncategorized @cy

Sioe Fawr 2015: Edrych ar darddiad enwau caeau

Postiwyd ar gan 0 comment

Mynwy yw sir nawdd y Sioe Fawr eleni, ac yn y sir honno y mae cartref Mr David Morgan, llywydd y Sioe, sef Trostre Court ym mhlwyf Trostre, i’r gogledd o Frynbuga.

Prin iawn yw’r enwau caeau a restrir ar restr degwm plwyf Trostre, ond yn ffodus, ceir ynddo gofnod cymharol lawn o enwau caeau Trostre Court.  Dyma gipolwg ar ddetholiad o’r enwau hynny:

Mae arwyddocâd rhai ohonynt yn amlwg, er enghraifft Caer Eglwys sy’n ffinio ag eglwys y plwyf (eglwys Trostre), neu Caie Ddwr (yn cynnwys yr elfennau caeau a dŵr) lle dangosir pwll bychan a oedd unwaith mae’n debyg yn cynnig ffynhonnell ddŵr.  (Gellir tybio mai gwall yw treiglad yr elfen dŵr, o bosibl gan gofnodwr di-Gymraeg).

Rhaid meddwl ymhellach am ystyron enwau eraill.  Nid yr elfen main ‘cul’ yn cyfeirio at siâp Cae Main ond yn hytrach main, ffurf luosog y gair maen ‘carreg’, yn ddisgrifiad o gae caregog.

Rhestr degwm Trostrey, tudalen 9

Rhestr degwm Trostrey, tudalen 9

 

Digwydd yr elfen gwrlod yn gyffredin yn enwau caeau Trostre Court, er enghraifft Wrlod y panta Ishaf ac Wrlod Clomendy.  Amrywiad yw gwrlod ar y gair gweirglod neu gweirglodd yn golygu ‘dôl neu gae gwair’.  Mae’n werth tynnu sylw hefyd at y clomendy neu colomendy yn yr ail enghraifft, sef adeilad bychan a ddefnyddid gynt ar gyfer magu colomennod i’w bwyta.  Dyma enw sydd felly’n cadw cof am hen arferion amaethyddol.

Fel y disgwylid mewn ardal heb fod ymhell o’r ffin â Lloegr, mae’r enwau’n cynnwys cymysgedd o elfennau Cymraeg a Saesneg.

Yn union i’r gorllewin o dŷ Trostre Court cofnodir ar y map degwm ddau gae o’r enw Ffor Lands a Ffor Land Uchaf.  Ymddengys mai ffurfiau ar yr elfen Saesneg foreland yn golygu ‘tir yn gorwedd o flaen’ sydd yma, o bosibl yn disgrifio lleoliad y caeau mewn perthynas â’r tŷ.  Ceir cofnod o’r elfen foreland yn digwydd mewn enwau lleoedd eraill yn sir Fynwy, e.e. Cae’r-foreland, Llanddingad (J. A. Bradney: A History of Monmouthshire ii. 64).  Tebyg mai label yw’r elfen Gymraeg uchaf er mwyn gwahaniaethu rhwng y ddau gae.

Rhestr degwm Trostrey, tudalen 10

Rhestr degwm Trostrey, tudalen 10

 

Enghraifft arall o’r cymysgu ieithyddol sy’n digwydd yn enwau caeau’r ardal yw Cae Ygen Cover a Thirty Covers.  Un enw cae yn cynnwys y rhifolyn Cymraeg ugain, a chae cyfagos yn cynnwys y rhifolyn Saesneg thirty.  Ond mae elfen olaf yr enwau, cover neu covers, yn fwy diddorol.  Cofnodir y gair Saesneg cover yn yr Oxford English Dictionary fel ‘Anglicized spelling of Welsh cyfair’ a chofnodir enghraifft o ddechrau’r ddeunawfed ganrif. Tebyg y dylid ychwanegu’r ddau enw cae yma at gofnodion yr OED.

Paratowyd gan Angharad Fychan gyda chydweithrediad Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru

 

 

Category: Uncategorized @cy
1 2 3 4 5 6