Parhad i brosiect Cynefin tan fis Mawrth 2017

Postiwyd ar gan 0 comment

Mae prosiect Cynefin wedi cael ei ymestyn tan fis Mawrth 2017.

Mae’r gwaith cadwraeth a digido bron wedi’i gwblhau a dylai pob map degwm fod ar-lein yn fuan. Bydd y casgliad o 1,200 o fapiau degwm o’r 1840au yn cwmpasu 95% o Gymru.

Bydd gwaith gwirfoddoli ar wefan cyfrannu torfol cynefin.cymru yn parhau tan fis Mawrth. Hyd yn hyn, mae dros 900 o wirfoddolwyr wedi cymryd rhan ar-lein. Gyda’i gilydd, maent wedi cyfrannu dros 17,000 awr o’u hamser ac wedi trawsgrifio dros 1.2 miliwn o gofnodion. Mae 92.5% o’r gwaith geogyfeirio wedi ei gwblhau, ac mae’r dasg enfawr o drawsgrifio 30,000 o dudalennau o ddogfennau dosrannu oddeutu 60% yn gyflawn ar hyn o bryd.

infographic_03

Hoffai staff y prosiect gymryd y cyfle hwn i ddiolch i’r holl wirfoddolwyr am eu cyfraniad a’u hymroddiad. Gyda’i gilydd, mae’r fyddin o wirfoddolwyr wedi cwblhau swm rhagorol o waith a fydd o fudd i bobl Cymru a thu hwnt pan fydd y wefan derfynol yn cael ei lansio yng ngwanwyn 2017. Bydd y wefan terfynol yn cynnig mynediad rhad ac am ddim i bawb at mapiau degwm Cymru, a’r cyfoeth o wybodaeth y maent yn cynnwys. Bydd yn bosibl chwilio’r data a phori’r mapiau gan ddefnyddio dulliau arloesol ac effeithiol. Drwy hyn, rydym yn gobeithio taflu goleuni ar dirlun daearyddol a chymdeithasol ein gwlad ar fin ei thrawsnewid.

Os hoffech chi gymryd rhan, darllenwch fwy ar ein tudalen gwirfoddoli.

 

Category: Uncategorized @cy

Mapiau hanesyddol Cymru yn datgelu defnydd yr iaith Gymraeg yn Y Fenni – cartref yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Postiwyd ar gan 0 comment

Tra bod rhai yn ystyried bod y Gymraeg yn gymharol wan yn sir Fynwy, mae prosiect Cynefin wedi datgloi tarddellau hanesyddol sy’n tystio mor bwysig yw’r Gymraeg yn hanes y sir.

Bydd trafodaeth o’r Gymraeg yn sir Fynwy yn cael ei gynnal ym mhabell cymdeithasau 2 ar faes yr Eisteddfod ddydd Iau am 4:30pm gydag Einion Gruffudd, Rheolwr Prosiect Cynefin, a Dr Elin Jones, Llywydd yr Eisteddfod.

Fel hanesydd blaenllaw bydd Dr Elin Jones yn rhoi’r cyd-destun, tra bod Einion Gruffudd yn canolbwyntio ar dystiolaeth o’r mapiau degwm y mae prosiect Cynefin eisoes wedi eu digido.

Cafodd mapiau degwm eu creu yn yr 1840au, yr un adeg a phan oedd Eisteddfodau’r Cymreigyddion yn cael eu cynnal yn rheolaidd yn Y Fenni. Erbyn hyn, mae’r mapiau degwm i’w gweld ar-lein ar wefan cynefin.cymru, ac maent yn dangos poblogrwydd yr iaith Gymraeg yn ystod y cyfnod.

Dywedodd Einion Gruffudd “Erbyn hyn mae lle i gredu bod dros hanner enwau caeau’r ardal yn Gymraeg yn ystod yr 1840au, sy’n adlewyrchu iaith gweision ffermydd yr ardal yn ystod y cyfnod.”Llanofer Estate

Dangosir stad Llanofer ar fap degwm plwyf Llanofer, ble trigai Augusta Hall, Arglwyddes Llanofer, neu ‘Gwenynen Gwent’ a oedd yn chwarae rhan allweddol yn trefnu ac ariannu Eisteddfodau’r Cymreigyddion.

Mae mapiau degwm yr ardal hefyd yn adrodd hanes y Siartwyr. Cafodd y mapiau eu dylunio’r un adeg a fyddai’r Siartwyr wedi gorymdeithio ar hyd dyffrynnoedd De Cymru i brotestio am bleidlais deg. Fel rhan o brosiect Cynefin mae’r dogfennau achosion llys yn erbyn y Siartwyr, yn dilyn eu hymosodiad ar Gasnewydd yn 1839, yn cael eu cyflwyno a’u trawsgrifio ar-lein. Er bod yr achos llys a’r dogfennau yn Saesneg, maent yn cynnwys cyfeiriadau at y Gymraeg ac at gyfieithu. Mae’r dogfennau yma yn arwydd amlwg bod llawer o’r diffynyddion yn Gymry Cymraeg ac yn wir mewn llawer o achosion, yn methu siarad Saesneg.

chartist doc

O edrych ar y ffynonellau hanesyddol yma, mae’n amlwg bod y Gymraeg mewn defnydd helaeth yn sir Fynwy, ac y dylid cofio hynny wrth astudio hanes y sir. Dangosir hyn fod dogfennau hanesyddol yn holl bwysig i greu darlun clir a chyflawn o’n hanes fel cenedl.

Mae dogfennau’r siartwyr yn cael eu trawsgrifio ar siartwyr.cynefin.cymru ar hyn o bryd, a dogfennau’r degwm ar cynefin.cymru

Category: Uncategorized @cy

Cynefin yn datgelu data hanesyddol am ffermio

Mae’r data sydd wedi ei drawsgrifio gan wirfoddolwyr fel rhan o brosiect Cynefin nawr yn cael ei ddefnyddio i astudio tueddiadau tymor hir amaethyddiaeth.

Mewn cydweithrediad gyda Phrifysgol Aberystwyth ac Undeb Amaethwyr Cymru mae’r wybodaeth fanwl am gaeau a defnydd tir yn yr 1840au yn cael ei ddefnyddio i wneud dadansoddiadau ystadegol am y newidiadau sydd wedi digwydd i natur amaethu yng Nghymru.

Llanfechain-Montgomeryshire

Hyd yma, dim ond ychydig dros hanner y 30,000 tudalen o ddogfennau’r degwm sydd wedi cael eu trawsgrifio, ond mae eisoes yn bosib dadansoddi rhai plwyfi mewn manylder.

Dywedodd Einion Gruffudd, Rheolwr Prosiect Cynefin, bod yr ymchwil yma’n enghraifft wych o’r manteision sy’n dod o ddigido a thrawsgrifio dogfennau a mapiau hanesyddol. “Rydym yn gyfarwydd a dadansoddiadau ystadegol yn astudio tueddiadau diweddar, ond mae cyfleoedd yn dod nawr i wneud pethau tebyg gyda data hanesyddol.” meddai.  Ychwanegodd “Dwi’n falch iawn o’r gwaith rydyn ni wedi llwyddo i’w wneud ar y cyd gyda myfyrwyr o’r Brifysgol, ac yn ddiolchgar iawn i Undeb Amaethwr Cymru a staff Llywodraeth Cymru am ein galluogi i gysylltu’r data hanesyddol gyda data diweddar.”

LandUseChange

Einion Gruffudd , Eryn White, Bethan Jones, Rhodri Evans, Nick Fenwick (FUW)

Einion Gruffudd (Cynefin), Eryn White, Bethan Jones a Rhodri Evans (Prifysgol Aberystwyth), Nick Fenwick (FUW)

Mae’r darganfyddiadau cynnar yma ar arddangos ar stondin Tŷ-Mawr yn Sioe Frenhinol Cymru wythnos yma (18 – 21 Gorffennaf 2016).

Mae’r data sydd wedi ei drawsgrifio i’w weld ar wefan cynefin.cymru. Yno hefyd cewch gyfle i helpu gofnodi’r 12,000 tudalen o  ddogfennau’r degwm sydd yn weddill i’w trawsgrifio.

Category: Uncategorized @cy

Mapio’r ymdeimlad o le yng Nghymru: Gwaith a Diwydiant

Postiwyd ar gan 0 comment

Mae mapiau’r degwm yn dangos rhwydwaith y rheilffyrdd yn dechrau ymlwybro ar draws y dirwedd, ond roedd yn wahanol iawn i’n rhwydwaith ni ar gyfer teithwyr, sydd mor gyfarwydd heddiw. Arweiniodd y cysylltiadau newydd hyn at newidiadau yn hanes llawer o drefi. Ymhen amser byddai’r rheilffyrdd sy’n dechrau ymddangos ar y mapiau hyn yn cysylltu dociau Caerdydd â diwydiannau glo a dur Merthyr. Maes o law byddai’r berthynas hon yn trawsnewid Caerdydd o fod yn dref fach yn y 1880au i fod yn brifddinas Cymru.

Mae Prosiect Cynefin yn awyddus i gael pobl Cymru i gymryd rhan yn y dasg o drawsgrifio mapiau’r degwm a dogfennau’r degwm sy’n enwi perchnogion tir, tirfeddianwyr, defnydd tir ac enwau caeau. Bydd hyn o gymorth i greu dull arloesol a chynhwysfawr o chwilio ar y we, fel y gall pobl archwilio’r mapiau mewn ffyrdd effeithiol.

 

Ymunwch a ni ar cynefin.cymru heddiw.

Category: Uncategorized @cy

Archwilio’r ymdeimlad o le yng Nghymru: Tirluniau a bywydau yn newid

Postiwyd ar gan 0 comment

Yn y 1840au fe gomisiynwyd cyfres o fapiau i gynorthwyo gyda’r dasg o drefnu taliadau’r degwm. Mae Mapiau Degwm yn crisialu darlun o Gymru gyfan, fwy neu lai, gan roi cipolwg ar ein cenedl oedd ar fin ei thrawsnewid. Mae Prosiect Cynefin yn mynd ati i warchod, digideiddio ac archwilio’r mapiau hyn er mwyn sicrhau bod y drysorfa o wybodaeth sydd ynddynt ar gael i unrhyw un, ar lein, am ddim.

Mae pobl a diwylliant Cymru wedi’u plethu’n dynn â’n tirwedd, ond mae ein perthynas â’r tir a’r ffordd rydym yn ei ddefnyddio wedi newid yn ddramatig ar draws y canrifoedd. Mae’r ffilm yma yn adrodd hanes newid ein diwylliant trwy gyfrwng yr enwau a roesom i leoedd a gallwn deithio’n ôl mewn amser i ddeall bywydau a phryderon pobl oedd yn byw ganrifoedd yn ôl.

Mae Prosiect Cynefin yn awyddus i gael pobl Cymru i gymryd rhan yn y dasg o drawsgrifio mapiau’r degwm a dogfennau’r degwm sy’n enwi perchnogion tir, tirfeddianwyr, defnydd tir ac enwau caeau. Bydd hyn o gymorth i greu dull arloesol a chynhwysfawr o chwilio ar y we, fel y gall pobl archwilio’r mapiau mewn ffyrdd effeithiol.

 

Ymunwch a ni ar cynefin.cymru heddiw.

Category: Uncategorized @cy

Dros filiwn o gofnodion wedi eu trawsgrifio gan wirfoddolwyr ar gyfer prosiect mapio hanesyddol

Postiwyd ar gan 0 comment

Wrth i ddathliadau Wythnos Gwirfoddolwyr cymryd lle o’r 1af i’r 12fed o Fehefin eleni, mae prosiect Cynefin yn dathlu cyrraedd carreg filltir anhygoel wrth i dros 800 o wirfoddolwyr helpu i drawsgrifio dros filiwn o gofnodion hanesyddol.

Dros y tair blynedd diwethaf, mae Cynefin wedi bod yn digido mapiau degwm Cymru – casgliad o dros 1,200 o fapiau hanesyddol o’r 1840au. Ar ôl eu digido, caiff y mapiau degwm eu rhoi ar-lein ar wefan cynefin.cymru, ynghyd â chofnodion y degwm o’r un cyfnod,  sy’n enwi tirfeddianwyr, deiliaid tir, enwau caeau a defnydd tir.

Mae gwirfoddolwyr o bob rhan o Gymru, ac yn wir ar draws y byd, wedi bod yn helpu’r prosiect ar-lein drwy drawsgrifio’r cyfoeth o wybodaeth sydd ar y mapiau a’r dogfennau diddorol  yma.

Dywedodd Carys Evans, cydlynydd gwirfoddolwyr Cynefin: “Rydym yn hynod o falch i allu dathlu llwyddiant ein gwirfoddolwyr yn ystod Wythnos Gwirfoddolwyr. Mae cyrraedd y garreg filltir o drawsgrifio dros filiwn o gofnodion yn glod i ymroddiad ein gwirfoddolwyr ac yn dangos grym cyfrannu torfol ar-lein. ”

Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn mapiau neu hanes Cymru, neu unrhyw un sy’n chwilio am gyfle i wirfoddoli o adref, ymweld â gwefan cynefin.cymru. Nid oes angen unrhyw wybodaeth arbenigol i ddechrau gwirfoddoli, ac mae ‘na ganllawiau syml i’w dilyn ar-lein.

Dywedodd Menna Evans, un o wirfoddolwyr y prosiect: “Os ydych yn meddwl am wirfoddoli, mi faswn yn eich annog i fynd amdani! Nid yn unig y byddwch yn edrych ar hanes teulu eich hun, mi fyddwch yn cyfrannu at hanes ein cenedl.”

Ychwanegodd Carys: “Mawr obeithiwn y bydd y llwyddiant yma yn ysbrydoli eraill i gymryd rhan. Mae’n gyfle gwych ar gyfer rhai sy’n dymuno gwirfoddoli, ond sydd am ryw reswm neu’i gilydd yn methu ag ymrwymo i rôl gwirfoddoli draddodiadol. Mae natur cyfrannu torfol ar-lein yn golygu gallwch ddewis pryd sydd orau i chi wneud y gwaith gwirfoddoli, a gallwch wneud y cyfan o’ch cartref. ”

Helpwch fapio hanes Cymru trwy ymweld â cynefin.cymru.

***********************************************************************

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â cynefin@llgc.org.uk neu 01970 632 416

Am ragor o wybodaeth ewch i wefan cynefin.cymru; dilynwch Cynefin ar twitter @ProsiectCynefin, neu cysylltwch â cynefin@llgc.org.uk neu 01970 632 416.

Arweinir prosiect Cynefin gan Archifau Cymru mewn partneriaeth gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chasgliad y Werin. Ariennir y prosiect yn bennaf gan Gronfa Treftadaeth y Loteri, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru trwy’r Is-adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd; Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Archifau Cymru.

Mae mwy o wybodaeth am Wythnos Gwirfoddolwyr ar gael ar http://volunteersweek.org/

Category: Uncategorized @cy

Enwau Caeau Eisteddfod yr Urdd

Postiwyd ar gan 0 comment

Fflint

Ysgol Uwchradd Fflint yw lleoliad Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2016. Saif yr ysgol honno ar gyn-safle fferm Bryn-coch, a cheir cofnod llawn o enwau caeau’r fferm yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn rhestri’r Mapiau Degwm.
Yn eu plith, mae enghreifftiau nodweddiadol o enwau sy’n disgrifio maint (Cae mawr), lleoliad (Cae pella, Cae Tan y plas pellaf), neu nodwedd neilltuol (Caer Ffynnon, Caer odyn).
Ceir ambell enw mwy dieithr megis Offt bach. Cynnwys yr enw hwnnw yr elfen grofft (a fenthyciwyd o’r Saesneg croft) yn golygu ‘cae bychan, yn enwedig un yn ymyl y tŷ’. Yn hanesyddol, fe gamdybiwyd mai’r fannod, ‘r, oedd llythyren gyntaf y ffurf dreigledig, rofft, gan arwain at ddatblygu ffurf gysefin newydd, offt, a dyna a geir yn yr enw Offt bach.
Mae’n werth oedi gydag un elfen sy’n ymddangos fwy nag unwaith yn enwau’r caeau sef acer. Digwydd Yr accar, Tair accar, Pedwar Accar, a Pum accar ar dir Bryn-coch. Tystia Geiriadur Prifysgol Cymru y defnyddir acer fel enw benywaidd ac fel enw gwrywaidd, ond mae’n ddiddorol bod y ddwy genedl yn cael eu harfer mewn un man yma.
Fel arfer, ystyrir acer fel mesur tir cyfystyr ag erw neu cyfair, ond ymddengys nad yw hynny’n wir yn achos caeau Bryn-coch. Ochr yn ochr â’r enwau’n cynnwys acer, cofnodir hefyd yr enw Deg Cyfair, ffaith sydd ynddi ei hun yn awgrymu bod gwahaniaeth yn yr ystyr. Gan fod cofnodion y Degwm yn nodi union faint y caeau, gellir profi hyn yn ddiamheuol. Nodir bod y cae Pum accar yn mesur chwe acer, tri rhwd, a thri pherc, ond bod Deg Cyfair yn chwe acer, un rhwd, a dau berc. Dyna brofi felly bod trigolion y Fflint, ar un adeg beth bynnag, yn ystyried bod acer yn cyfateb yn fras i ddau gyfair.
Digwydd un enw arall yn rhestr caeau Bryn-coch sy’n haeddu sylw, sef Acre. Byddai’n demtasiwn dehongli hwn fel y mesur tir Saesneg acre, ond mae’n llawer mwy tebygol mai acre, ynganiad llafar ar acrau, ffurf luosog acer, sydd yma, fel yn yr enwau Acre-fair, sir Ddinbych, a Thalacre, sir Fflint.

Angharad Fychan

Aceri

Paratowyd gyda chefnogaeth Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru
www.cymdeithasenwaulleoeddcymru.org

Category: Uncategorized @cy

Cyfle unigryw i micro-wirfoddoli ar-lein gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Postiwyd ar gan 0 comment

Hoffech chi wirfoddoli a chyfrannu at achos da, ond yn brin o amser i gyflawni rôl gwirfoddoli reolaidd? Os felly, a ydych wedi ystyried micro-wirfoddoli ar-lein?  Mae dydd Gwener 15fed o Ebrill yn ddiwrnod micro-wirfoddoli ac mae prosiect Cynefin, a leolir yn y Llyfrgell Genedlaethol yn chwilio am bobl i gymryd ychydig o funudau yn ystod eu diwrnod i gyfrannu tuag at brosiect cenedlaethol.

Mae prosiect Cynefin yn digido mapiau degwm Cymru ac yn chwilio am wirfoddolwyr i helpu i drawsgrifio a geogyfeirio’r mapiau hanesyddCasnewydd_transcriptionol yma o’r 1840au. Mae eisoes gan y prosiect dros 700 o wirfoddolwyr ledled y byd sy’n cwblhau tasgau micro-wirfoddoli ar ei gwefan cyfrannu torfol.

Dywedodd Rheolwr Prosiect Cynefin,  Einion Gruffudd: “Y peth gwych am y rôl wirfoddol hon yw nad oes unrhyw ymrwymiad; gallwch wneud cymaint neu gyn lleied ag y dymunwch, fel a phan y gallwch, o gysur eich cartref. ”

Gall y tasgau micro-wirfoddoli ar wefan cynefin.cymru cael eu gwneud ar adeg ac ar gyflymder sy’n addas i bob unigolyn. Trwy roi dim ond 10 munud o’ch amser gallwch helpu i wella mynediad tuag at dreftadaeth Cymru a chryfhau cof cyfunol y genedl.IMG_20150527_104540

Yn dilyn y prosiect, bydd y mynediad at mapiau degwm Cymru yn rhad ac am ddim ar-lein. Bydd y gwaith a wneir gan wirfoddolwyr yn golygu bydd y wybodaeth ar y 1,200 map degwm a’r 30,000 tudalen o ddogfennau cysylltiedig yn chwiliadwy mewn ffyrdd arloesol. Mae’r dogfennau hanesyddol yma yn cynnwys gwybodaeth fel enwau  tirfeddianwyr, enwau deiliaid tir ac enwau caeau, ac mi fydd yn adnodd gwerthfawr ar gyfer unrhyw un sy’n ymchwilio i’w hanes teuluol neu hanes lleol.

Felly cofiwch, os oes gennych chi 10 munud i sbario dydd Gwener yma, gall eich cyfraniad chi fynd yn bell!

Category: Uncategorized @cy

Siartiaeth: Ennill yr hawl i bleidleisio yng Nghymoedd De Cymru

Postiwyd ar gan 0 comment

Cyn hir, bydd gan Gymru gyfle i benderfynu ar ei ffawd. Ar draws y wlad ar ddydd Iau 5ed o Fai bydd pawb dros 18 oed yn gymwys i bleidleisio yn etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Anodd yw credu bod llai na 100 mlynedd ers i ddynion a menywod ar draws Prydain ennill yr hawl i bleidleisio. Roedd pobl gyffredin Cymoedd y De yn allweddol yn yr ymgyrch i ennill pleidlais teg i bawb.

Ar ddechrau teyrnasiad y Frenhines Fictoria roedd y safonau byw ac amodau gwaith ofnadwy yn y diwydiannau haearn a glo wedi annog llawer i frwydro am newid. O ganlyniad ymunodd llawer o bobl yng Nghymru â mudiad y Siartwyr, i ymladd am yr hawl i bob dyn i bleidleisio mewn system wleidyddol decach. Daeth y gwrthdaro i ben gwaedlyd yng Nghasnewydd ar fore’r 4ydd o Dachwedd 1839 pan orymdeithiodd miloedd o ddynion o gymoedd de Cymru ger Gwesty’r Westgate yng Nghasnewydd i fynnu rhyddhau Siartwyr a oedd wedi eu carcharu’n lleol. Roedd yr awdurdodau yn barod ar eu cyfer fodd bynnag ac wedi lleoli milwyr y tu mewn i’r gwesty. Cafodd o leiaf 22 o Siartwyr eu lladd a llawer mwy eu hanafu.

Mae un o brosiectau lleol Cynefin, O Deithiau i Dreialon, sydd wedi ei leoli yn Archifau Gwent yn bywhau geiriau’r dynion a menywod cyffredin a fu’n rhan o’r digwyddiadau yma – digwyddiadau a fyddai’n newid gwleidyddiaeth i bawb ym Mhrydain dros y degawdau i ddilyn. Fel rhan o’r prosiect mae galwChiefZephaniah ar wirfoddolwyr i helpu trawsgrifio geiriau’r tystion ar-lein. Casglwyd geiriau’r tystion gan yr awdurdodau i baratoi ar gyfer treial fradwriaeth a ddilynodd digwyddiadau’r 4ydd o Dachwedd 1839. Roedd y treial yn condemnio John Frost, Zephaniah Williams a William Jones i farwolaeth bradwr; y gosb gysylltiedig oedd cael eu crogi a chwarteru eu cyrff. Sbardunodd hyn brotest gyhoeddus yn erbyn arfer oedd eisoes yn cael ei ystyried yn farbaraidd, a denwyd fwy byth o sylw at ymgyrch y Siartwyr. O ganlyniad, yn dilyn y treial cafodd y dynion eu herlid i Tasmania yn hytrach na’u cosbi i farwolaeth.

Fe’ch gwahoddir yn gynnes i Archifau Gwent, Glyn Ebwy ar ddydd Iau 14 o Ebrill 2016 o 2:00pm-5:00pm lle bydd prosiect O Deithiau i Dreialon yn lansio’r wefan trawsgrifio i wirfoddolwyr ac yn arddangos adnoddau addysg wedi’u hanelu at blant, pobl ifanc a grwpiau cymunedol. Bydd dogfennau o’r 1830au a’r 1840au yn cael eu harddangos

Fe heriodd y Siartwyr system wleidyddol a oedd yn ffafrio’r elit tra bod miliynau yn llafurio mewn tlodi, ac roedd bobl De Cymru yn ganolog i sicrhau’r rhyddid yr ydym yn mwynhau heddiw. Enillwyd eich hawl i bleidleisio gan bobl gyffredin, yma yng Nghymru.

Helpwch ni i ledaenu’r neges trwy drydar neu ail-drydar @Trails2Trials @Siartiaethgwent a defnyddio’r hashnod #ChartistVotes

Cafodd y mapiau degwm y mae prosiect Cynefin yn eu digido eu creu tua’r un adeg a’r symudiad Siartiaeth. Maent felly yn rhoi syniad i ni o sut le oedd De Cymru ar y pryd, a sut fywydau oedd gan y bobl oedd ynghlwm a’r digwyddiadau yma.

Mapiau degwm Aberdar, Merthyr, Gelligaer, Bedwellty ac Aberystruth

Mapiau degwm Aberdar, Merthyr, Gelligaer, Bedwellty ac Aberystruth

Category: Uncategorized @cy

Darganfyddwch eich perthnasau ar fapiau degwm Cynefin

Mae prosiect Cynefin yn digido mapiau degwm Cymru o’r 19eg ganrif ac yn eu harddangos ar-lein er mwyn i bawb cael mynediad atynt. Gall mapiau degwm eich helpu i ddarganfod eich cyndeidiau Cymreig o’r cyfnod. Mae’r mapiau yma, sy’n dyddio o’r 1840au, yn cynnwys dogfennau atodol sy’n enwi perchnogion tir a thirfeddianwyr o’r cyfnod, ac yn dangos union leoliad eu ffermydd a’u caeau.

Mudodd llawer o’r bobl, neu berthnasau’r bobl y gwelwch ar y mapiau a’r dogfennau yma i wledydd eraill yn ystod yr 19eg ganrif, yn bennaf o ganlyniad i amodau byw caled yng Nghymru ar y pryd. Un o’r gwledydd mwyaf poblogaidd y mudodd y Cymry iddo oedd yr Unol Daleithiau, ac o ganlyniad cymrodd rhai ohonynt ran yn Rhyfel Cartref America.

Un o’r Cymry a frwydrodd yn y Rhyfel Cartref oedd John Griffith Jones a anwyd yn 1843. Gellir ei gysylltu a fferm deuluol ei daid, John Jones, o Bryn y Fedwen, Llanrug. Mae gwefan cynefin.cymru yn rhoi cysylltiad uniongyrchol i ni rhwng John Jones ei hun, enw ei fferm a’i gaeau, a lleoliad y fferm a’r tir ar fap degwm. Gallwch hefyd gymharu’r map degwm efo mapiau modern a hanesyddol eraill.

John Jones Llanrug Brynyfedwen

Adroddir stori John Griffith Jones drwy ei lythyron, a ysgrifennodd yn Gymraeg at ei deulu yn ystod y Rhyfel Cartref. Mae’r llythyron yma wedi cael eu digido ac maent i’w gweld ar-lein ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Llythyr John Griffith Jones

Gellir darganfod llawer o bobl eraill a fudodd o Gymru ar y mapiau degwm. Bydd y wybodaeth sydd ynghlwm a’r mapiau yn chwiliadwy ar-lein unwaith bydd gwirfoddolwyr wedi trawsgrifio’r wybodaeth. Bydd hyn yn hwyluso’r ffordd y medrwch ddod o hyd i’ch cyndeidiau ar fapiau degwm.

Gallwch helpu i wneud yr adnodd gwerthfawr yma ar gael ar-lein drwy gyfrannu ar wefan cyfrannu torfol Cynefin.

Category: Uncategorized @cy
1 2 3 4 6