Oes Modd Perffeithio’r Map Yma o Gymru?

Mae’r ddelwedd yma’n ganlyniad i filoedd o oriau o geogyfeirio a chlipio gan wirfoddolwyr Cynefin.

Cymru20170306

Dyma’r allbwn diweddaraf, ac mae pob nam y gwyddom amdano wedi ei ddatrys, dim ond dau neu dri o fapiau sydd ar ôl i’w llwytho.
Mae rhai bylchau yn y map, gallwch eu gweld trwy chwyddo’r map. Er enghraifft dyma rai bylchau yn sir Frycheiniog.

Brycheiniog20170307

Ydyn nhw yno oherwydd goegyfeirio neu glipio anghyflawn? Oes modd iddyn nhw ffitio’n well? Neu ydy’r bylchau yn adlewyrchu tir ble nad oedd y degwm yn cael ei godi?
Mae yna ffwythiannau uwch ar Cynefin sy’n gallu ein cynorthwyo i ddatrys hyn, felly os oes gennych ddiddordeb mewn geogyfeirio o ddifri, dyma gyfle gwych.

Efallai y bydd y canllawiau yma’n ddefnyddiol, ond cofiwch mai canllawiau uwch ydyn nhw, ar gyfer pobl sydd eisoes yn gwybod sut i geogyfeirio a chlipio ar Cynefin.

Category: Uncategorized @cy

Transcription Tuesday 2017: Ymunwch â thîm Cynefin!

Postiwyd ar gan 0 comment

Mae’r cylchgrawn Who Do You Think You Are? yn cynnal ei digwyddiad Transcription Tuesday cyntaf erioed ar ddydd Mawrth 17 Ionawr 2017.

Byddant yn gofyn i haneswyr teulu i neilltuo amser i gyfrannu at un o nifer o brosiectau trawsgrifio ar-lein, hyd yn oed os mai dim ond am hanner awr.

Mae aelodau staff  cylchgrawn WDYTYA? wedi dewis menter i gefnogi ac mi fyddant yn arwain ‘tîm’ ei hun o trawsgrifwyr, a fydd yn gweithio o adref. Mae Cynefin wedi bod yn ddigon lwcus i gael ei ddewis fel un o’r mentrau i gefnogi gan Andy Williams, Swyddog Gwerthiant cylchgrawn WDYTYA?. Mae Andy yn egluro ei reswm dros ddewis Cynefin; “Raised in Barry with parents from the Rhondda, Welsh family history is a project particularly close to my heart. As a born-and-bred Welshman, I chose this project for Transcription Tuesday to help researchers finding their Welsh lineage and aid in building such a vast database.” Gallwch ddod o hyd i blog a thiwtorial cyflym Cynefin gan Andy yma:

Blog am Cynefin a thiwtorial ar gyfer #TranscriptionTuesday

Cofrestrwch yma i ymuno â thîm Cynefin ar gyfer y digwyddiad #TranscriptionTuesday cyntaf erioed ar 17 Ionawr 2017.

I ddechrau arni, lawrlwythwch ein canllawiau gwirfoddoli am wybodaeth ar sut i agor cyfrif ar wefan Cynefin a dechrau trawsgrifio.

Casnewydd_transcription

Category: Uncategorized @cy

Ynys Môn ar fin cael ei gwblhau

Mae dros pum mis i fynd gyda Cynefin, ac mae’n edrych fel mai Ynys Môn fydd y sir fydd yn gorffen gyntaf.

ynys_mon

Mae’r plwyfi a welir ar y map yma wedi eu llunio gan wirfoddolwyr gwefan Cynefin sydd wedi clipio mapiau degwm i’r siap a welir. Gallwch weld fod ambell fwlch ble na llwythwyd map eto ar y wefan, yn Llangefni a Gwredog. Gobeithiwn lwytho’r rhain yr wythnos hon.

Mae yna orgyffwrdd a bylchau rhwng y mapiau, ac yn y rhan fwyaf o achosion dylai fod yn bosib tacluso hyn trwy roi sylw i’r clipio neu i’r geogyfeirio, ble buasai pwyntiau cywir yn agos at ymyl y mapiau yn helpu.

Er hynny, mae yna rai ardaloedd sydd heb ddegwm o gwbl, a lle na fydd map chwaith, ond fel y gwelwch uchod, ardaloedd bychain ydynt. Un ydy Bodewryd yng ngogledd yr ynys, ble trefnodd yr arglwydd Stanley ei fod yn talu degwm iddo’i hun ac felly doedd dim angen map. Nid oedd degwm yn Llannerch y Medd chwaith.

Croeso i unrhywun wneud y gwaith manwl ond difyr o gwblhau’r clipio a’r geogyfeirio yma ar wefan http://cynefin.cymru.

Mae dogfennau degwm ynys Mon hefyd bron a gorffen, ond mae yna dudalennau bychain unigol sydd heb eu trawsgrifio: Beaumaris, Gwredog, Llanbabo, Llanfachreth (ail dudalen), Llanfigel, Llanfflewin, Llangaffo, Llangwyllog, Rhosmynach

Category: Uncategorized @cy

Golwg gyntaf ar fap degwm unedig o Gymru o’r 1840au

Mae delwedd wedi cael ei rhyddhau gan brosiect Cynefin sy’n dangos y cynnydd ar waith i uno mapiau hanesyddol i greu map degwm unedig o Gymru gyfan.

Mae’r ddelwedd yn dangos maint y gwaith sydd ynghlwm wrth greu map degwm cyflawn a fydd yn gorchuddio 95% o Gymru. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae dros 1,200 o fapiau unigol wedi cael eu trwsio a’u digido. Ar ôl eu digido, mae’r mapiau yn cael eu rhoi ar-lein ar wefan cynefin.cymru lle mae gwirfoddolwyr yn eu geogyfeirio a chlipio er mwyn lleoli a diffinio ffin pob plwyf neu dref. Mae’r ddelwedd yn dangos yn union faint o waith sydd wedi ei gwblhau gan wirfoddolwyr, a faint sydd ar ôl i’w wneud.

Ffiniau_Plwyfi_Cynefin_v1b

Bydd y map unedig yn cael ei geogyfeirio yn fanwl er mwyn ei gymharu yn hawdd gyda haenau eraill o fapiau modern a hanesyddol. Mae gwirfoddolwyr hefyd yn gwneud gwaith trawsgrifio ar-lein; a bydd hyn yn gwneud y map yn gwbl chwiliadwy drwy blatfform ar-lein rhad ac am ddim. Bydd modd chwilio a dod o hyd i berchnogion tir, deiliaid tir ac enwau caeau o’r 1840au ar draws Gymru. Mi fydd hefyd yn bosib pori’r map yn ddaearyddol, a’i chwyddo i weld yr holl gaeau unigol, yn ogystal â manylion megis adeiladau a choetiroedd.

Cynhyrchwyd y ddelwedd gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, sydd wedi ail-leoli yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn ddiweddar. Dyma’r tro cyntaf i’r prosiect gynhyrchu cipolwg o’r map unedig terfynol. O ganlyniad, gall gwirfoddolwyr nawr weld yn gyfleus pa ardaloedd sydd angen rhagor o waith. Mae croeso i unrhyw un sydd eisiau ymuno i helpu cwblhau’r map hynod fanwl o Gymru i wneud hynny ar-lein ar cynefin.cymru.

 

Gwybodaeth Bellach:
Einion Gruffudd 01970 632842 neu cynefin@llgc.org.uk

Category: Uncategorized @cy

Parhad i brosiect Cynefin tan fis Mawrth 2017

Postiwyd ar gan 0 comment

Mae prosiect Cynefin wedi cael ei ymestyn tan fis Mawrth 2017.

Mae’r gwaith cadwraeth a digido bron wedi’i gwblhau a dylai pob map degwm fod ar-lein yn fuan. Bydd y casgliad o 1,200 o fapiau degwm o’r 1840au yn cwmpasu 95% o Gymru.

Bydd gwaith gwirfoddoli ar wefan cyfrannu torfol cynefin.cymru yn parhau tan fis Mawrth. Hyd yn hyn, mae dros 900 o wirfoddolwyr wedi cymryd rhan ar-lein. Gyda’i gilydd, maent wedi cyfrannu dros 17,000 awr o’u hamser ac wedi trawsgrifio dros 1.2 miliwn o gofnodion. Mae 92.5% o’r gwaith geogyfeirio wedi ei gwblhau, ac mae’r dasg enfawr o drawsgrifio 30,000 o dudalennau o ddogfennau dosrannu oddeutu 60% yn gyflawn ar hyn o bryd.

infographic_03

Hoffai staff y prosiect gymryd y cyfle hwn i ddiolch i’r holl wirfoddolwyr am eu cyfraniad a’u hymroddiad. Gyda’i gilydd, mae’r fyddin o wirfoddolwyr wedi cwblhau swm rhagorol o waith a fydd o fudd i bobl Cymru a thu hwnt pan fydd y wefan derfynol yn cael ei lansio yng ngwanwyn 2017. Bydd y wefan terfynol yn cynnig mynediad rhad ac am ddim i bawb at mapiau degwm Cymru, a’r cyfoeth o wybodaeth y maent yn cynnwys. Bydd yn bosibl chwilio’r data a phori’r mapiau gan ddefnyddio dulliau arloesol ac effeithiol. Drwy hyn, rydym yn gobeithio taflu goleuni ar dirlun daearyddol a chymdeithasol ein gwlad ar fin ei thrawsnewid.

Os hoffech chi gymryd rhan, darllenwch fwy ar ein tudalen gwirfoddoli.

 

Category: Uncategorized @cy

Mapiau hanesyddol Cymru yn datgelu defnydd yr iaith Gymraeg yn Y Fenni – cartref yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Postiwyd ar gan 0 comment

Tra bod rhai yn ystyried bod y Gymraeg yn gymharol wan yn sir Fynwy, mae prosiect Cynefin wedi datgloi tarddellau hanesyddol sy’n tystio mor bwysig yw’r Gymraeg yn hanes y sir.

Bydd trafodaeth o’r Gymraeg yn sir Fynwy yn cael ei gynnal ym mhabell cymdeithasau 2 ar faes yr Eisteddfod ddydd Iau am 4:30pm gydag Einion Gruffudd, Rheolwr Prosiect Cynefin, a Dr Elin Jones, Llywydd yr Eisteddfod.

Fel hanesydd blaenllaw bydd Dr Elin Jones yn rhoi’r cyd-destun, tra bod Einion Gruffudd yn canolbwyntio ar dystiolaeth o’r mapiau degwm y mae prosiect Cynefin eisoes wedi eu digido.

Cafodd mapiau degwm eu creu yn yr 1840au, yr un adeg a phan oedd Eisteddfodau’r Cymreigyddion yn cael eu cynnal yn rheolaidd yn Y Fenni. Erbyn hyn, mae’r mapiau degwm i’w gweld ar-lein ar wefan cynefin.cymru, ac maent yn dangos poblogrwydd yr iaith Gymraeg yn ystod y cyfnod.

Dywedodd Einion Gruffudd “Erbyn hyn mae lle i gredu bod dros hanner enwau caeau’r ardal yn Gymraeg yn ystod yr 1840au, sy’n adlewyrchu iaith gweision ffermydd yr ardal yn ystod y cyfnod.”Llanofer Estate

Dangosir stad Llanofer ar fap degwm plwyf Llanofer, ble trigai Augusta Hall, Arglwyddes Llanofer, neu ‘Gwenynen Gwent’ a oedd yn chwarae rhan allweddol yn trefnu ac ariannu Eisteddfodau’r Cymreigyddion.

Mae mapiau degwm yr ardal hefyd yn adrodd hanes y Siartwyr. Cafodd y mapiau eu dylunio’r un adeg a fyddai’r Siartwyr wedi gorymdeithio ar hyd dyffrynnoedd De Cymru i brotestio am bleidlais deg. Fel rhan o brosiect Cynefin mae’r dogfennau achosion llys yn erbyn y Siartwyr, yn dilyn eu hymosodiad ar Gasnewydd yn 1839, yn cael eu cyflwyno a’u trawsgrifio ar-lein. Er bod yr achos llys a’r dogfennau yn Saesneg, maent yn cynnwys cyfeiriadau at y Gymraeg ac at gyfieithu. Mae’r dogfennau yma yn arwydd amlwg bod llawer o’r diffynyddion yn Gymry Cymraeg ac yn wir mewn llawer o achosion, yn methu siarad Saesneg.

chartist doc

O edrych ar y ffynonellau hanesyddol yma, mae’n amlwg bod y Gymraeg mewn defnydd helaeth yn sir Fynwy, ac y dylid cofio hynny wrth astudio hanes y sir. Dangosir hyn fod dogfennau hanesyddol yn holl bwysig i greu darlun clir a chyflawn o’n hanes fel cenedl.

Mae dogfennau’r siartwyr yn cael eu trawsgrifio ar siartwyr.cynefin.cymru ar hyn o bryd, a dogfennau’r degwm ar cynefin.cymru

Category: Uncategorized @cy

Cynefin yn datgelu data hanesyddol am ffermio

Mae’r data sydd wedi ei drawsgrifio gan wirfoddolwyr fel rhan o brosiect Cynefin nawr yn cael ei ddefnyddio i astudio tueddiadau tymor hir amaethyddiaeth.

Mewn cydweithrediad gyda Phrifysgol Aberystwyth ac Undeb Amaethwyr Cymru mae’r wybodaeth fanwl am gaeau a defnydd tir yn yr 1840au yn cael ei ddefnyddio i wneud dadansoddiadau ystadegol am y newidiadau sydd wedi digwydd i natur amaethu yng Nghymru.

Llanfechain-Montgomeryshire

Hyd yma, dim ond ychydig dros hanner y 30,000 tudalen o ddogfennau’r degwm sydd wedi cael eu trawsgrifio, ond mae eisoes yn bosib dadansoddi rhai plwyfi mewn manylder.

Dywedodd Einion Gruffudd, Rheolwr Prosiect Cynefin, bod yr ymchwil yma’n enghraifft wych o’r manteision sy’n dod o ddigido a thrawsgrifio dogfennau a mapiau hanesyddol. “Rydym yn gyfarwydd a dadansoddiadau ystadegol yn astudio tueddiadau diweddar, ond mae cyfleoedd yn dod nawr i wneud pethau tebyg gyda data hanesyddol.” meddai.  Ychwanegodd “Dwi’n falch iawn o’r gwaith rydyn ni wedi llwyddo i’w wneud ar y cyd gyda myfyrwyr o’r Brifysgol, ac yn ddiolchgar iawn i Undeb Amaethwr Cymru a staff Llywodraeth Cymru am ein galluogi i gysylltu’r data hanesyddol gyda data diweddar.”

LandUseChange

Einion Gruffudd , Eryn White, Bethan Jones, Rhodri Evans, Nick Fenwick (FUW)

Einion Gruffudd (Cynefin), Eryn White, Bethan Jones a Rhodri Evans (Prifysgol Aberystwyth), Nick Fenwick (FUW)

Mae’r darganfyddiadau cynnar yma ar arddangos ar stondin Tŷ-Mawr yn Sioe Frenhinol Cymru wythnos yma (18 – 21 Gorffennaf 2016).

Mae’r data sydd wedi ei drawsgrifio i’w weld ar wefan cynefin.cymru. Yno hefyd cewch gyfle i helpu gofnodi’r 12,000 tudalen o  ddogfennau’r degwm sydd yn weddill i’w trawsgrifio.

Category: Uncategorized @cy

Mapio’r ymdeimlad o le yng Nghymru: Gwaith a Diwydiant

Postiwyd ar gan 0 comment

Mae mapiau’r degwm yn dangos rhwydwaith y rheilffyrdd yn dechrau ymlwybro ar draws y dirwedd, ond roedd yn wahanol iawn i’n rhwydwaith ni ar gyfer teithwyr, sydd mor gyfarwydd heddiw. Arweiniodd y cysylltiadau newydd hyn at newidiadau yn hanes llawer o drefi. Ymhen amser byddai’r rheilffyrdd sy’n dechrau ymddangos ar y mapiau hyn yn cysylltu dociau Caerdydd â diwydiannau glo a dur Merthyr. Maes o law byddai’r berthynas hon yn trawsnewid Caerdydd o fod yn dref fach yn y 1880au i fod yn brifddinas Cymru.

Mae Prosiect Cynefin yn awyddus i gael pobl Cymru i gymryd rhan yn y dasg o drawsgrifio mapiau’r degwm a dogfennau’r degwm sy’n enwi perchnogion tir, tirfeddianwyr, defnydd tir ac enwau caeau. Bydd hyn o gymorth i greu dull arloesol a chynhwysfawr o chwilio ar y we, fel y gall pobl archwilio’r mapiau mewn ffyrdd effeithiol.

 

Ymunwch a ni ar cynefin.cymru heddiw.

Category: Uncategorized @cy

Archwilio’r ymdeimlad o le yng Nghymru: Tirluniau a bywydau yn newid

Postiwyd ar gan 0 comment

Yn y 1840au fe gomisiynwyd cyfres o fapiau i gynorthwyo gyda’r dasg o drefnu taliadau’r degwm. Mae Mapiau Degwm yn crisialu darlun o Gymru gyfan, fwy neu lai, gan roi cipolwg ar ein cenedl oedd ar fin ei thrawsnewid. Mae Prosiect Cynefin yn mynd ati i warchod, digideiddio ac archwilio’r mapiau hyn er mwyn sicrhau bod y drysorfa o wybodaeth sydd ynddynt ar gael i unrhyw un, ar lein, am ddim.

Mae pobl a diwylliant Cymru wedi’u plethu’n dynn â’n tirwedd, ond mae ein perthynas â’r tir a’r ffordd rydym yn ei ddefnyddio wedi newid yn ddramatig ar draws y canrifoedd. Mae’r ffilm yma yn adrodd hanes newid ein diwylliant trwy gyfrwng yr enwau a roesom i leoedd a gallwn deithio’n ôl mewn amser i ddeall bywydau a phryderon pobl oedd yn byw ganrifoedd yn ôl.

Mae Prosiect Cynefin yn awyddus i gael pobl Cymru i gymryd rhan yn y dasg o drawsgrifio mapiau’r degwm a dogfennau’r degwm sy’n enwi perchnogion tir, tirfeddianwyr, defnydd tir ac enwau caeau. Bydd hyn o gymorth i greu dull arloesol a chynhwysfawr o chwilio ar y we, fel y gall pobl archwilio’r mapiau mewn ffyrdd effeithiol.

 

Ymunwch a ni ar cynefin.cymru heddiw.

Category: Uncategorized @cy

Dros filiwn o gofnodion wedi eu trawsgrifio gan wirfoddolwyr ar gyfer prosiect mapio hanesyddol

Postiwyd ar gan 0 comment

Wrth i ddathliadau Wythnos Gwirfoddolwyr cymryd lle o’r 1af i’r 12fed o Fehefin eleni, mae prosiect Cynefin yn dathlu cyrraedd carreg filltir anhygoel wrth i dros 800 o wirfoddolwyr helpu i drawsgrifio dros filiwn o gofnodion hanesyddol.

Dros y tair blynedd diwethaf, mae Cynefin wedi bod yn digido mapiau degwm Cymru – casgliad o dros 1,200 o fapiau hanesyddol o’r 1840au. Ar ôl eu digido, caiff y mapiau degwm eu rhoi ar-lein ar wefan cynefin.cymru, ynghyd â chofnodion y degwm o’r un cyfnod,  sy’n enwi tirfeddianwyr, deiliaid tir, enwau caeau a defnydd tir.

Mae gwirfoddolwyr o bob rhan o Gymru, ac yn wir ar draws y byd, wedi bod yn helpu’r prosiect ar-lein drwy drawsgrifio’r cyfoeth o wybodaeth sydd ar y mapiau a’r dogfennau diddorol  yma.

Dywedodd Carys Evans, cydlynydd gwirfoddolwyr Cynefin: “Rydym yn hynod o falch i allu dathlu llwyddiant ein gwirfoddolwyr yn ystod Wythnos Gwirfoddolwyr. Mae cyrraedd y garreg filltir o drawsgrifio dros filiwn o gofnodion yn glod i ymroddiad ein gwirfoddolwyr ac yn dangos grym cyfrannu torfol ar-lein. ”

Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn mapiau neu hanes Cymru, neu unrhyw un sy’n chwilio am gyfle i wirfoddoli o adref, ymweld â gwefan cynefin.cymru. Nid oes angen unrhyw wybodaeth arbenigol i ddechrau gwirfoddoli, ac mae ‘na ganllawiau syml i’w dilyn ar-lein.

Dywedodd Menna Evans, un o wirfoddolwyr y prosiect: “Os ydych yn meddwl am wirfoddoli, mi faswn yn eich annog i fynd amdani! Nid yn unig y byddwch yn edrych ar hanes teulu eich hun, mi fyddwch yn cyfrannu at hanes ein cenedl.”

Ychwanegodd Carys: “Mawr obeithiwn y bydd y llwyddiant yma yn ysbrydoli eraill i gymryd rhan. Mae’n gyfle gwych ar gyfer rhai sy’n dymuno gwirfoddoli, ond sydd am ryw reswm neu’i gilydd yn methu ag ymrwymo i rôl gwirfoddoli draddodiadol. Mae natur cyfrannu torfol ar-lein yn golygu gallwch ddewis pryd sydd orau i chi wneud y gwaith gwirfoddoli, a gallwch wneud y cyfan o’ch cartref. ”

Helpwch fapio hanes Cymru trwy ymweld â cynefin.cymru.

***********************************************************************

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â cynefin@llgc.org.uk neu 01970 632 416

Am ragor o wybodaeth ewch i wefan cynefin.cymru; dilynwch Cynefin ar twitter @ProsiectCynefin, neu cysylltwch â cynefin@llgc.org.uk neu 01970 632 416.

Arweinir prosiect Cynefin gan Archifau Cymru mewn partneriaeth gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chasgliad y Werin. Ariennir y prosiect yn bennaf gan Gronfa Treftadaeth y Loteri, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru trwy’r Is-adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd; Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Archifau Cymru.

Mae mwy o wybodaeth am Wythnos Gwirfoddolwyr ar gael ar http://volunteersweek.org/

Category: Uncategorized @cy
1 2 3 5